Datganiad i Gydsefyll a'r Ymprydwyr Cwrdeg
Mae Leyla Guven, AS Cwrdeg a etholwyd yn ddemocrataidd i Senedd Twrci, wedi bod yn ymprydio ers dros 100 diwrnod ac mae bellach yn agos at farwolaeth. Mae ei hympryd yn galw am roi diwedd ar garcharu yr arweinydd Cwrdaidd Abdullah Öcalan. Mae arweinydd Plaid Gweithwyr Cwrdistan (PKK) wedi ei gadw dan glo gan Dwrci ers 1999. Mae dros 300 o Gwrdiaid nawr yn ymprydio mewn carchardai yn Nhwrci, Cwrdistan, Ewrop, Gogledd America ac Awstralia. Yn Strasbwrg, mae 14 o Gwrdiaid wedi bod yn ymprydio ers mis Rhagfyr 17 i roi pwysau ar y Pwyllgor Ewropeaidd i Atal Poenydio (CPT) i gyflawni ei dyletswyddau ac ymweld a'r carchar ble cedwir Abdullah Öcalan er mwyn gwirio ei sefyllfa. Yng Nghymru, mae Imam Sis wedi bod yn ymprydio ers Rhagfyr 17eg yng Nghanolfan Gymunedol Cwrdaidd yng Nghasnewydd. Mae'r ymgyrch ryngwladol am ryddid i Öcalan ac ailadeiladu trafodaethau heddwch rhwng llywodraeth Twrcaidd a'r PKK yn cael ei gefnogi gan y TUC, GMB, Unite ac undebau eraill, Jer